Menter Iaith Sir Caerffili

Menter Bro Ogwr

Rhondda Cynon Taf

Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot Menter Iaith Abertawe Bro Morgannwg Menter Caerdydd Menter a Chanolfan Gymraeg Merthyr Tudful Blaenau gwent Mynwy Torfaen
Mentrau Iaith Morgannwg Gwent Menter Iaith
Newyddion diweddaraf Mentrau Morgannwg Gwent
drwy Rhestr Straeon Syml

Rhagor o Fentrau Iaith ar www.mentrau-iaith.com
Newyddion Menter Iaith Abertawe

Cwrs Gwaith Ieuenctid i Bobol Ifanc
O ddechrau mis Hydref tan Ragfyr 2011 bu criw 13 o bobol ifanc brwdfrydig o Ysgolion Cyfun Gwyr a Bryn Tawe yn ymgymryd ar chwrs Gwaith Ieuenctid i Bobol Ifanc neu GIBI. Mae’r prosiect sy’n ymestyn gorwelion pobl ifanc Abertawe yng ngwaith ieuenctid ac yn eu cymhwyso i weithio gyda phobol ifanc. 9/1/2012
Clwb pêl- rwyd Menter Iaith Abertawe yn ail ddechrau
Bydd ein clwb pêl- rwyd yn ail ddechrau ar 13 Ionawr yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol, Gorseinon.4/1/2012
Dyddiadau Sesiynau Gwerin 2012
3/1/2012
Parti Nadolig y Plant
Cynhaliwyd Parti Nadolig y Plant y Fenter yn Nhŷ Tawe ar 17 Rhagfyr21/12/2011
Gig Dewi Pws a Radwm
Cafwyd noson wych yn Nhŷ Tawe ar nos Wener 16 Rhagfyr, gyda Dewi Pws a Radwm yn perfformio’n fyw. Braf oedd gweld cymaint o wynebau newydd yno, a brafiach fyth oedd gweld cynifer o bobl yn mwynhau a dawnsio i glasuron 21/12/2011
Parti 'Dolig y Plant
Roedd Parti ‘Dolig y Plant yn llwyddiant ysgubol eleni eto, gyda 25 (a mwy) o blant yma yn mwynhau. Cafwyd p’nawn o hwyl a sbri gyda gemau, gweithgareddau celf a chrefft, a chyfle i gael darn o gacen Nadolig. 21/12/2011
Parti 'Dolig y Dysgwyr
Ar fore dydd Mawrth, 20 Rhagfyr, cynhaliwyd Parti ‘Dolig y Dysgwyr. Cafwyd ymateb gwych i’r parti, gyda dros hanner cant o ddysgwyr yn mynychu. Roedd y parti yn gyfle gwych i ddysgwyr o bob gallu ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac ymarfer eu Cymraeg, yn ogystal â mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd. 21/12/2011
Treforus
Yn dilyn llwyddiant ysgubol cwrs Ma’ Dy Gymraeg di’n Grêt y llynedd yng Nghlydach fe ddechreuodd yr ail gwrs eleni yn Nhreforys. Y tro yma mae’r grŵp wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn cefnogaeth a chymorth Prif Athrawes Ysgol newydd Tan y Lan yn Nhreforys, Catrin Jones fu’n annog rhieni i ddod i’r sesiynau. 2/12/2011
.
29/11/2011
.
29/11/2011
.
29/11/2011
.
29/11/2011
Gêm timau Pêl-rwyd Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr
Nos Wener y 18fed o Dachwedd chwaraeodd tîm pêl-rwyd Menter Iaith Abertawe ei gem gyntaf yn erbyn Ysgol Gyfun Gŵyr yng nghanolfan hamdden Penyrheol. O dan arweiniad y gyn athrawes Addysg Gorfforol Sue Leyshon a`r athrawes Addysg Gorfforol Sara Thomas sgoriwyd sawl gôl gampus gan y ddau dîm gyda`r gêm yn agos a`r cefnogwyr yn mwynhau’r wledd. 28/11/2011
Pêl-rwyd: Menter Iaith Abertawe yn erbyn Menter Iaith Dyffryn Aman
Nos Wener y 25ain o Dachwedd fe chwaraeodd tîm Clwb Pêl-rwyd Menter Abertawe ei hail gem yn erbyn tîm Dyffryn Aman. Roedd y timau yn gymysgedd o flynyddoedd 6 (Cynradd)i 12 (Uwchradd) gyda chynrychiolwyr yn nhîm Menter Iaith Abertawe o Ysgolion Gwyr, Bryntawe a Login Fach. 28/11/2011
Clwb Ieuenctid Clydach
28/9/2011
.
31/8/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS
Newyddion Menter Caerffili
Hysbyseb Prentisiaeth
Prentis Gwaith Ieuenctid Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid y Basement a Menter Iaith Sir Caerffili £13,589 - £15,444 Llawn Amser / Cyfnod penodedig Dyddiad cau : 10/02/2012 Mae’r cynllun Prentisiaeth Cenedlaethol yn swydd sydd wedi’i ariannu yn llawn, sy’n ffocysu ar ddarparu cyfleoedd i’r rheini sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gyda ffocws ychwanegol ar rheini sy’n gadael ysgol, ond gall rhywun o unrhyw oedran ymgeisio.
Hyfforddiant am ddim i Bobl Ddi-waith dros 50 oed
Ar hyn o bryd mae Ambiwlans St John Cymru yn cynnig hyfforddiant cyfrifiaduron a chymorth cyntaf i bobl ddi-waith dros 50 oed.
Cylch Cinio Nadolig, 16 Rhagfyr
Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn y Nadolig, cynhaliwyd Cylch Cinio Nadolig y Fenter yn nhafarn Pontygwindy, Caerffili eleni.
Cân i Gymru
Mae Cân i Gymru yn chwilio am gyfansoddwyr talentog sydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 2012.
Neges Bwysig gan RhAG - Buddugoliaeth!
Bydd cefnogwyr yr iaith Gymraeg wrth eu boddau yn deall bod yr arian y bu RhAG yn ymladd amdano ar gyfer datblygu Sant Ilan yn Ysgol Uwchradd Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus.
Hwyl a Sbri i bawb yn y Ffair Nadolig
Cynhaliwyd Ffair Nadolig y Fenter yn Llancaiach Fawr ar y 26ain o Dachwedd ac roedd hi'n boblogaidd a llwyddiannus dros ben.


Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

AMSER CYLCH 2012
Menter Iaith mewn cyd weithrediad a TWF Dewch i gael hwyl gyda’ch babi yn y Gymraeg! Stori, canu a sesiwn celf a chrefft yn y Gymraeg ac hwn i gyd am ddim! Cyfle gwych i wneud ffrindiau newydd ac ymarfer eich Cymraeg. 16/1/2012
PROSIECT 366 - Dathlu ugainmlwyddiant y Fenter! TEITL MIS IONAWR YW: CARIAD
Helpwch ni greu darn o gelf arbennig i ddathlu ein ugainmlwyddiant eleni. Ni'n chwilio am 366 o ffotograffau, un i gynrychioli pob dydd o'r flwyddyn naid. 13/1/2012
Amser Cylch
Engraifft arbennig o gydweithio, â Menter Iaith yn cydweithio â swyddog TWF yr ardal i gynnal sesiynau arbennig i rieni â phlant oed cyn ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. 10/1/2012
Dechrau da i'r dosbarthiadau dawnsio lladin!
Ffordd newydd a chyffrous o gadw’n heini ar ôl mwynhau’r mins peis Nadolig. Dosbarthiadau dawnsio lladin (Cyfrwng Cymraeg - Gyda tiwtor fydd yn siarad Cymraeg!) £20 am 5 wythnos. 4/1/2012
Parti Nadolig Y Porth 2011
Parti Nadolig Y Porth Digwyddiad mawr Nadolig Menter Iaith. Cynhelir hwn yn flynyddol yn y Parc Treftadaeth yn Nhrehafod. 8/12/2011
ENNILLWYR RAFFL A HELFA DRYSOR PARTI PORTH
Y canlynol oedd yn fuddugol yn y raffl a'r helfa drysor yn Parti Porth dydd Sadwrn. Yn ennill y bocs enfawr o siocledi mae Mathew Owen o Bontypridd, a mae'r i-pod Shuffle, sef y wobr yn yr helfa drysor i blant, yn mynd i Mia Grace a Ruby May Cradle ( 8 a 6 mlwydd oed) o Ferndale. 21/11/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS
Menter Merthyr Tudful

Priodas Santes Dwynwen
Ry'n ni'n edrych ymlaen at hon! Gobeithio gwelwn ni chi yno x19/1/2012
Nadolig Soar
13/11/2011
Taith Siopa Nadolig i Gaerfyrddin, yn Galw ym Methlehem
Ymunwch â ni ar gyfer taith siopa Nadolig i Gaerfyrddin Ddydd Sadwrn 03-12-11! Ar y ffordd, byddwn ni'n galw yn Ffair Nadolig Bethlehem ac fe gewch chi'r cyfle i gael marc post enwog y swyddfa bost honno ar eich cardiau Nadolig. 13/11/2011
Swydd Llawn Amser
Swyddog Treftadaeth £20,000 (Cefnogir gan Cronfa Teftadaeth y Loteri am gyfnod o 2 flynedd ) Rhywun i weithio gyda chymuned Merthyr Tudful i godi ymwybyddiaeth am dreftadaeth leol a'i chysylltiad âr iaith Gymraeg. 10/11/2011
Dangosiadau Ffilm yn Theatr Soar
IAU 17-11-11 7.30PM Ffilm ysbrydoledig ac yn weledol drawiadol, ac yn sôn am daith dwy fenyw, y naill yn chwilio am ei gorffennol a�r llall am ei dyfodol. 1/11/2011
Bore Coffi
Dydd Sadwrn 26/11/11 am 10.00am yng Nghaffi Cwtsh. Cyfle gwych i gwrdd â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. 31/10/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS
Newyddion Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

TIM RHANBARTHOL Y GWEILCH
Yn dilyn cytundeb gyda thîm rhanbarthol y Gweilch, mae’r Fenter Iaith yn gyfrifol am drefnu erthyglau dwyieithog sydd yn ymddangos o fewn rhaglenni bob gêm gartref. 29/5/2012
Gigs y Gwach Ionawr 2012
Dechreuwyd 2012 gyda gig anhygoel yn Y Gwachel nos Wener, 20fed o Ionawr. Cerddcegin ddechreuodd y noson gyda set wych werinol a thraddodiadol iawn. 23/1/2012
Cwpan Heineken - Ffeithiau Diddorol
Ali ki16/1/2012
Am ddyfarnu........ewch amdani!
(Rhaglen gêm 1.1.12 - Y Gweilch yn erbyn y Gleision) “Don’t give up your day job, Ref!” yw un o’r cynghorion mae dyfarnwr yn clywed o’r teras yn weddol gyson. 4/1/2012
Cwis Nadolig 2011
Cynhaliwyd cwis Nadolig y Fenter ar nos Iau, 29 Rhagfyr yng Nghlwb Rygbi’r Alltwen. 3/1/2012
Tîm Pêl-rwyd Dyffryn Aman yn Sglefrio Iâ
Ar nos Iau'r 15fed o Ragfyr, aethpwyd â 10 aelod o dîm pêl-rwyd Dyffryn Aman i lawr i Abertawe i Sglefrio Iâ. 20/12/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS
Menter Bro Ogwr

Ail-fywiogwch eich Cymraeg!
Mae Menter Bro Ogwr a Chymraeg i Oedolion yn gobeithio trefnu’r sesiynau wnaethoch chi ddangos diddordeb mewn mynychu i ail fywiogi eich Cymraeg. 14/2/2012
Cwrs Zwmba Cymraeg i ddechrau heno!
Cwrs 8 wythnos yn cychwyn 26ain o Ionawr 2012 Pob Nos Iau, 7:30yp, Clwb Ceidwadol Abercynffig Cost: £28 am 8 wythnos Dewch i gadw’n heini trwy gyfrwng y Gymraeg mewn dull unigryw! Dewch i ddawnsio i rythmau cerddorol De America, symudwch eich corff wrth ddawnsio Salsa, meringue, cumbia, reggeaton, mambo, cha-cha, hip hop a hyd yn oed dawnsio bol. 26/1/2012
Ffenest Nadoligaidd Siop yr Hen Bont yn creu argraff ar Faer y Dref
Cafodd ffenestri Nadolig mwyaf deniadol Pen-y-bont gydnabyddiaeth gan Faer y Dref. Gwobrwywyd chwe ennillydd yn y gystadleuaeth ffenestr siop gorau am y ffenestri mwyaf creadigol a llawen. 13/1/2012
Bwyta'n iach i blant
Arddangosiad coginio gan gogydd teledu S4C Stondinau a gweithgareddau Chwarae meddal Canolfan Chwaraeon Pen-y-bont Dydd Mercher 9fed o Dachwedd 12. 9/11/2011
Hysbyseb Swydd
Penybont Swyddog Maes Lleoliad: Bydd disgwyl i'r sawl a benodir gweithio o adre a bydd cyfleusterau swyddfa ar gael yn swyddfa Mudiad Meithrin yn Llanelli. 4/11/2011
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Bro Ogwr 2011
Dewch i glywed am hanes a datblygiadau Menter Bro Ogwr yn ystod 2010 a 2011! Nos Fawrth 1af o Dachwedd 2011 Clwb Rygbi Pen-y-bont 7:00yh - 9:00yh Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. 1/11/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS
Newyddion Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Coffi a Chlonc
14/1/2012
Swyddfa'r Fenter
Mae swyddfa'r Fenter wedi symud ar hyd prif stryd Pont-y-pŵl i Neuadd Iago Sant.1/1/2012
Taith i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
9/12/2011
Diwrnod i'r Teulu - Ysgol Gymraeg y Fenni - 19 Tachwedd
Diwrnod i'r Teulu - Ysgol Gymraeg y Fenni - 19 Tachwedd19/11/2011
BORE COFFI
11 Tachwedd / 11 November 2011 Gyda / With Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy 11/11/2011
Ffair Llyfrau
8/11/2011
Cysylltiad i roi ar eich Blog RSS



Papurau Bro

Tafod Elái
Yr Hogwr
Y Dinesydd
Gloran
Clochdar
Tua'r Goleuni
.cylch
Newyddion Gwent
Wilia
Clecs y Cwm

E-bost - ymateb

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Frwydr y Bandiau >> Brwydr




  Mae Mentrau Iaith yn hybu ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg drwy weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau, cymdeithasau, busnesau a chyrff cyhoeddus. Mae'r Mentrau yn codi proffil yr iaith Gymraeg yn yr ardal, helpu i newid agweddau tuag at yr iaith yn lleol, a darparu cyfleoedd i bobl o bob oedran gwrdd a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.   By working in partnership with organisations, societies, businesses and public bodies Menter Initiatives promote and develop the use of the Welsh language. Menter raise the profile of the Welsh language in the area, help to change people's attitudes towards the language and provide opportunities for people of all ages to meet and socialise in Welsh.
       
 


Noddwr www Sponsor